2011 Rhif 1667(Cy. 191)

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) (Diwygio) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Yr oedd Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/831 (Cy.125)) (“y prif Reoliadau”) wedi dirymu a disodli Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1748 (Cy.185)).

Mae’r prif Reoliadau yn darparu ar gyfer gwneud taliadau uniongyrchol er mwyn i berson sicrhau darpariaeth o rai gwasanaethau gofal cymdeithasol y byddid yn eu darparu o dan y deddfiadau gofal cymunedol a grybwyllir yn adran 46(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (cynlluniau awdurdod lleol ar gyfer gwasanaethau gofal cymunedol), i ofalwyr o dan adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (gwasanaethau ar gyfer gofalwyr), neu wasanaethau o dan adran 17 o Ddeddf Plant 1989 (darparu gwasanaethau i blant mewn angen, eu teuluoedd ac eraill).

Mae rheoliadau 3 i 10 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i gywiro mân wallau drafftio a gwallau teipograffyddol yn y testun Cymraeg a gwneud un diwygiad canlyniadol i destun Saesneg y prif Reoliadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gan mai cywiro mân wallau drafftio a gwallau teipograffyddol yn y prif Reoliadau yn unig y maent, ni thybiwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 


2011 Rhif 1667(Cy.191)

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed                             6 Gorffennaf 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       7 Gorffennaf 2011

Yn dod i rym                              2 Awst 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 57(1), (1A), (3), (5B), (5C), (6), (7) a (7B) a 64(4A), (6) ac (8) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001([1]) ac adrannau 17A(1), (3) a (4) a 104(4) a 104A o Ddeddf Plant 1989([2]).

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 2 Awst 2011.

(2)  Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw  Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011([3]).

(3)  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio'r nodyn esboniadol i'r prif Reoliadau

2. Yn y nodyn esboniadol i reoliad 7 o'r prif Reoliadau, yn y testun Cymraeg, yn lle “gweithredu ar ran person” rhodder “bod yn ddirprwywr i berson”.

Diwygio rheoliad 7 o'r prif Reoliadau

3.(1) Mae rheoliad 7 o'r prif Reoliadau (pwerau a ragnodir ar gyfer lladmeryddion) wedi cael ei ddiwygio yn unol â pharagraffau canlynol y  rheoliad hwn.

(2) Yn y testun Cymraeg—

(a)     yn y pennawd, yn lle “lladmeryddion” rhodder “dirprwywyr”,  a

(b)     yn lle “lladmerydd” rhodder  “dirprwywr” .

(3) Yn y testun Saesneg yn lle “lladmerydd” rhodder “dirprwywr”.

Diwygio rheoliad 9 o'r prif Reoliadau

4.(1) Mae rheoliad 9 o'r prif Reoliadau (taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001), wedi cael ei ddiwygio yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.

(2) Ym mharagraff (2)(a)(iii), yn y testun Cymraeg, yn lle “ladmerydd” rhodder “ddirprwywr”.

(3) Ym mharagraff (4)(a), yn y testun Cymraeg, hepgorer “neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989”.

Diwygio rheoliad 10 o'r prif Reoliadau

5. Yn rheoliad 10 o'r prif Reoliadau (swm a thalu taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989), ym mharagraff (2) yn y testun Cymraeg—

(a)     yn lle “P” pan fo’n ymddangos am y tro cyntaf, rhodder “y person rhagnodedig”, a

(b)     yn lle “P” pan fo’n ymddangos am yr eildro,  rhodder “’r person rhagnodedig”.

Diwygio rheoliad 11 o'r prif Reoliadau

6. Yn rheoliad 11 o'r prif Reoliadau (swm a thalu taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001), ym mharagraff (6), yn y testun Cymraeg—

(a)     mewnosoder “y” rhwng “wneud” a “taliad”, a

(b)     yn lle “uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 er mwyn i’r person rhagnodedig” rhodder “y cyfeirir ato ym mharagraff (1) mewn cysylltiad â’r person sy'n”.

Diwygio rheoliad 12 o'r prif Reoliadau

7.(1) Mae rheoliad 12 o'r prif Reoliadau (amodau mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989), wedi cael ei ddiwygio yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.

(2) Ym mharagraff (2)(c), yn y testun Cymraeg, mewnosoder “sy’n byw ar yr un aelwyd â’r person rhagnodedig ac” rhwng “person” a “sy’n”.

(3) Ym mharagraff (5), yn y testun Cymraeg, mewnosoder “amodau” rhwng “yr” ac “y cyfeirir”.

Diwygio rheoliad 13 o'r prif Reoliadau

8. Yn rheoliad 13 o'r prif Reoliadau (amodau mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001), ym mharagraff (3)(c), yn y testun Cymraeg, mewnosoder “byw ar yr un aelwyd â P ac sy’n” rhwng “person sy’n” a “dwyn”.

Diwygio rheoliad 17 o'r prif Reoliadau

9.(1) Mae rheoliad 17 o'r prif Reoliadau (adolygu) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraff canlynol y rheoliad hwn.

(2) Ym mharagraff (2), yn y testun Cymraeg—

(a)     yn lle “nad yw” rhodder “bod”,  a

(b)     yn lle “o” rhodder “o'r” rhwng “adran 57(5A)” a “Ddeddf honno”.

 Diwygio rheoliad 19 o'r prif Reoliadau

10.(1) Mae rheoliad 19 o'r prif Reoliadau (terfynu taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001), wedi ei ddiwygio yn unol â'r paragraff canlynol o'r  rheoliad hwn.

(2) Ym mharagraff (6), yn y testun Cymraeg—

(a)     mewnosoder “uniongyrchol” rhwng “daliadau” ac “a wneir”,

(b)     yn is-baragraff (a), mewnosoder “buddiolwr” rhwng “os yw’r” ac “yn berson”, ac

(c)     yn is-baragraff (c), hepgorer “is met”.

 

 

 

 

 

Gwenda Thomas

 

Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan  awdurdody  Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

6 Gorffennaf 2011

 



([1])           Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15) (“Deddf 2001”). Cafodd adran 57 o Ddeddf 2001 ei diwygio gan adran 146 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p.14) (“Deddf 2008”). Mewnosodwyd adrannau 57(1A), (5B) a (5C) o Ddeddf 2001 gan adran 146(2) a (6) o Ddeddf 2008 a mewnosodwyd adran 57(7B) gan adran 16 o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2010 (mccc 2).  Gweler adran 57(8) o Ddeddf 2001 am y diffiniad o “prescribed” ac adran 66 am y diffiniadau o “regulations” a “the relevant authority”. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf 2001 i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

([2])           Deddf Plant 1989 (p.41) (“Deddf 1989”). Amnewidiwyd adran 17A o Ddeddf 1989 gan adran 58 o Ddeddf 2001, ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 3 o Atodlen 3 i Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23) (“DPPhI”). Cafodd adran 104 o Ddeddf 1989 ei diwygio gan baragraff 25 o Atodlen 3 i DPPhI a mewnosodwyd adran 104A o Ddeddf 1989 gan baragraff 26 o Atodlen 3 i DPPhI. Gweler adran 17A(6) o Ddeddf 1989 am y diffiniad o “prescribed” ac adran 30A (fel y'i mewnosodwyd gan baragraff 22 o Atodlen 3 i DPPhI) am y diffiniad o “appropriate national authority”.

([3])           O.S. 2011/831 (Cy.125).